Er mwyn medru datblygu triniaethau newydd, mae angen rhoi gwybod i gleifion, gofalwyr a pherthnasau a rhoi cyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn ymchwil a phrofion clinigol. Rydym yn datblygu cofrestr o gleifion a gofalwyr er mwyn cadw gwybodaeth gyfredol am bobl gydag phroblemau cof, fel dementia neu amhariad gwybyddol ysgafn, neu anhwylderau symud, fel afiechyd Parkinson, sy’n fodlon cymryd rhan mewn ymchwil. Bydd hyn yn gweithredu fel adnodd clinigol i ymchwilwyr sy’n chwilio am bobl i gymryd rhan yn eu hastudiaethau.
Isod fe gewch wybodaeth ar sut i ymwneud â’r gofrestr fel cyfranogwr, yn ogystal â gwybodaeth i rai sydd eisoes ar y gofrestr, a gwybodaeth i ymchwilwyr sy’n chwilio am gyfranogwyr posibl.
Mae tair canolfan NEURODEM yng Nghymru; felly, os oes gennych ddiddordeb mewn ymwneud â’r gofrestr, cysylltwch â’r ganolfan agosaf os gwelwch yn dda.
Bangor:
Cofrestr Achosion Ymchwil NEURODEM,
Prifysgol Bangor,
Ardudwy,
Safle’r Normal,
Ffordd Caergybi,
Bangor
LL57 2PX
Ffôn: (01248) 382598 / 382226
Abertawe:
Cofrestr Achosion Ymchwil NEURODEM,
CRC Cymru,
Ystafell 235, Adeilad Grove,
Prifysgol Abertawe,
Abertawe.
SA2 8PP
Ffôn: (01792) 602 097
Caerdydd:
Cofrestr Achosion Ymchwil NEURODEM,
CRC Cymru,
Trydydd Llawr,
12 Heol yr Eglwys Gadeiriol,
Caerdydd.
CF11 9LJ.
Ffôn: 02920 196851
Neu anfonwch e-bost atom: neurodem@bangor.ac.uk
I rai sydd â diddordeb ymuno â’r gofrestr:
Ydych chi’n dioddef oddi wrth broblemau cofio, fel dementia neu amhariad gwybyddol ysgafn; neu ydych chi’n dioddef oddi wrth anhwylder symud, fel afiechyd Parkinson neu afiechyd Huntingdon?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu at yr ymchwil ddiweddaraf i geisio atal neu wella eich cyflwr neu weld beth sy’n ei achosi?

Ymunwch â’n Cofrestr Achosion Ymchwil!
Cronfa ddata yw Cofrestr Achosion Ymchwil NEURODEM o bobl gyda chyflyrau fel dementia neu afiechyd Parkinson sydd eisiau cael gwybod am ymchwil sy'n cael ei gwneud i’w cyflyrau a chael cyfle i gymryd rhan ynddi. Trwy ymuno â’r gofrestr, nid oes unrhyw orfodaeth arnoch i gymryd rhan mewn unrhyw astudiaeth ymchwil. Cedwir yr holl ddata’n gyfrinachol ac nid oes unrhyw fanylion a allai ddangos pwy ydych yn cael eu cadw ar y gronfa ddata.
I gael golwg ar ein taflen wybodaeth, cliciwch ar y cyswllt isod:
Taflen cyfranogwr a gofalwr (Saesneg)
Taflen cyfranogwr a gofalwr (Cymraeg)
Os ydych wedi darllen y daflen wybodaeth ac yr hoffech ymuno â'r gofrestr, llenwch y ffurflen ganiatâd isod a'i hanfon drwy e-bost neu eu phostio i'ch canolfan NEURODEM agosaf. Byddwn yn anfon ffurflen gofrestru i chi ei llenwi, gydag amlen ragdaledig i chi ei dychwelyd ynddi.
Ffurflen Ganiatâd (Saesneg)
Ffurflen Ganiatâd (Cymraeg)
I rai sydd ar y gofrestr yn barod:

Diolch i chi am ymuno â Chofrestr Achosion Ymchwil NEURODEM!
Os byddwch yn newid eich cyfeiriad unrhyw bryd tra ydych ar y gofrestr, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda fel y gallwn wneud yn siwr y byddwch yn derbyn ein cylchlythyr blynyddol a gwybodaeth am brojectau ymchwil. Mae ffurflen newid cyfeiriad i’w chael isod; gellwch naill ai ei e-bostio atom neu ei phostio i’ch canolfan NEURODEM agosaf.
Ffurflen newid cyfeiriad (Saesneg)
Ffurflen newid cyfeiriad (Cymraeg)
Cofiwch nad oes unrhyw reidrwydd arnoch i gymryd rhan yn unrhyw brojectau ymchwil y gallwn dynnu eich sylw atynt, ac nid yw bod ar y gofrestr yn golygu o anghenraid y gofynnir i chi gymryd rhan mewn astudiaeth. Gellwch dynnu’n ôl o’r gofrestr achosion unrhyw bryd heb roi rheswm. Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech dynnu’n ôl neu drafod eich cyfranogiad eich hun neu gyfranogiad eich perthynas.
Ar gyfer ymchwilwyr sy’n dymuno recriwtio cyfranogwyr:
Ydych chi’n chwilio i recriwtio cyfranogwyr gydag afiechyd niwroddirywiol fel dementia neu afiechyd Parkinson?

Gadewch i ni eich helpu!
Yn aml mae’n anodd a chostus mewn amser i glinigwyr ac hymchwilwyr adnabod cleifion addas ar gyfer gwahanol brofion clinigol ac astudiaethau eraill. Oherwydd hyn rydym yn gweithio’n agos â nifer o glinigau ac yn gwahodd cleifion gyda dementia neu afiechydon niwroddirywiol eraill, fel afiechyd Parkinson, i ymuno â Cofrestr Achosion Ymchwil NEURODEM. Cronfa ddata yw hon o gleifion a gofalwyr sydd eisiau cael gwybod am ymchwil sy'n cael ei gwneud i’w cyflyrau a chael cyfle i gymryd rhan ynddi. Bydd y gofrestr hon yn adnodd ymchwil clinigol lle gallwn adnabod cleifion addas o’r gofrestr ar gyfer unrhyw astudiaethau ymchwil/profion y dymunwch recriwtio ar eu cyfer mewn cydweithrediad â NEURODEM. I gael golwg ar ein taflen wybodaeth, cliciwch ar y cyswllt isod:
Taflen wybodaeth i glinigwyr ac ymchwilwyr (Saesneg)
Taflen wybodaeth i glinigwyr ac ymchwilwyr (Cymraeg)
Os hoffech ddefnyddio’r gofrestr i weld cyfranogwyr posibl, llenwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda a’i dychwelyd i’ch canolfan NEURODEM agosaf.
Ffurflen adnabod cyfranogwyr (Saesneg)
Ffurflen adnabod cyfranogwyr (Cymraeg)